Diweddarwyd ddiwethaf 11 Awst 2003
Am y Darllen Fi diweddaraf, ewch iwww.openoffice.org/welcome/readme.html
Annwyl Ddefnyddiwr
Mae'r ffeil yn cynnwys gwybodaeth bwysig ynghylch y rhaglen hon. Darllennwch y wybodaeth yn ofalus iawn cyn cychwyn gweithio.
Hoffai cymuned OpenOffice.org, sy'n gyfrifol am ddatblygiad y cynnyrch hwn. eich gwahodd i gymryd rhan fel aelod cymuunedol. Fel defnyddiwr newydd, ewch i safle OpenOffice.org am wybodaeth defnyddiwr defnyddiol ynwww.openoffice.org/about_us/introduction.html Hefyd darllenwch yr adran isod am ymuno â phroject OpenOffice.org.
Anghenion y System:
Mae anawsterau cychwyn OpenOffice.org (e.e. rhaglen yn sefyll) yn ogystal â phroblemau gyda'r dangosydd yn aml yn cael eu hachosi gan yrrwr y cerdyn graffigol. Os yw'r anhawsterau hyn yn digwydd, diweddarwch yrrwr eich cerdyn graffig neu ddefnyddiwch y gyrrwr ddaw gyda'ch system weithredu. Mae modd datrys anhawsterau dangos gwrthrychau 3D drwy anablu dewis "Defnyddiwch OpenGL" o dan 'Offer - Dewis - Golwg - Golwg 3D'.
Mae modd gosod OpenOffice.org 1.1 ochr yn ochr â'r fersiwn hyn o OpenOffice.org. Os fyddwch yn penderfynu dadosod y fersiwn hyn yn ddiweddarach, rhaid i chi alw rhaglen osod y fersiwn diweddaraf a dewis 'Trwsio'. Bydd hyn yn sicrhau fod y fersiwn newydd wedi ei gofrestri'n iawn ar eich system.
Sylwch na fydd copïo a gludo drwy'r clipfwrdd yn gweithio yn fformat OpenOffice.org rhwng OpenOffice.org 1.0 ac OpenOffice 1.1. Os yw hynny'n digwydd,dewiswch 'Golygu - Gludo Arbennig' a dewis fformat arwahân i OpenOffice.org neu agor y ddogfen yn OpenOffice 1.1 yn uniongyrchol.
Gwnewch yn siwr od gennych ddigon o gof rhydd yng nghyfeiriadur dros dro eich system a bod hawliau darllen, ysgrifennu a rhedeg wedi eu rhoi. Caewch bob rhaglen arall cyn cychwyn gosod.
Os ydych yn profi anawsterau cychwyn OpenOffice.org (yn bennaf wrth ddefnyddio Gnome) 'dadsetiwch' amrywiolyn amgylchedd SESSION MANAGER o fewn y gragen rydych yn ei defnyddio i gychwyn OpenOffice.org. Mae modd gwneud hyn wrth ychwanegu'r linell "unset SESSION_MANAGER" i ddechrau'r sgript cragen soffice sydd i'w gael yng nghyfeiriadur "[office folder]/program"
Mewn locale "th_TH", bydd XIM Thai yn cyflawni gwiriad trefn mewnbwn. Mae hynny'n golygu na fydd OpenOffice.org yn gallu normaleiddio ac awtogywiro trefn mewnbwn Thai.
Newidiwch y llinellau canlynol yng ngosodiadau amgylchedd defnyddiwr cyn rhedeg y rhaglen
XMODIFIERS="@im=BasicCheck" neu XMODIFIERS="@im=Strict
at (neu ychwanegu'r llinellau canlynol os nad ydynt yn bod)
Oherwydd anaswterau o fewn y Java(TM) Access Bridge, rhaoid gosod local y system weithredu i "English (United States)" neu "(EN-us)". Dim ond ar y gosodiadau hyn mae modd gweithio gyda rhaglenni fel ZoomText. (Sylwch: Nid yw'r rhaglen WindowEyes yn gweithio gyda OpenOffice.org am nad yw'n cynnal API Java Accessibility.Nid yw'r Java(TM) Access Bridge sydd wedi ei osod gyda'r fersiwn mynediad cynnar hwn yn gweithio'n iawn gyda rhaglenni Java arferol.
Yn OpenOffice.org mae modd newid y ffont'syn'n cael eu ddefnyddio ar gyfer arddangos sgrin ac argraffu drwy ei newid gyda ffont gwahanol i'r hyn sydd ar eich system. Mae modd gwneud hyn drwy ddefnyddio'r dull newid ffont. Dewiswch Offer - Dewisiadau - OpenOffice.org - Amnewid Ffontiau i gael mynediad ato.
I newid ffont rhyngwyneb defnyddiwr OpenOffice.org, rhaid amnewid y ffont rhagosodedig "Andale Sans UI" gyda ffont arall a marcio'r gosodiad "bob tro" ar gyfer y newid hwn.
Cyfeiriwch at Gymorth OpenOffice.org am esboniad manwl o'r deialog.
Dim ond bysellau (cyfuniad bysellau) nad ydynt yn cael eu defnyddio gan y system weithredu mae modd eu defnyddio yn OpenOffice.org. Os nad yw cyfuniad bysellau'n gweithio fel y disgrifir yn Cymorth OpenOffice.org, gwiriwch fod y llwybr byr yn cael ei ddefnyddio eisoes gan y system. I gywiro'r gwrthdaro, mae modd newid y bysellau neilltuwyd gan eich system weithredu. Fel arall, mae modd newid bron unrhyw un o fysellau neulltuwyd gan OpenOffice.org. Am ragor o wybodaeth ar y pwnc, ewch i Cymorth OpenOffice neu ddogfennaeth Cymorth eich system weithredu.
Yn fersiynau is na 3.6, mae system ffeil ReiserFS yn achosi problem cyn gynted ag y byd Enw'r defnyddiwr yn uwch na 65535. Y broblem yw nad oes modd tynnu ffeiliau sydd wedi eu cadw dros dro gan OpenOffice.org gan y rhaglen ei hun, ond yn hytrach gan weinyddwr y system (e.e. /tmp/OSL_PIPE_xxx ). Y canlyniad yw nad oes modd cychwyn OpenOffice.org. Mae'r broblem o fewn system ffeiliau ReiserFS ac mae wedi ei gywiro o fersiwn 3.6 ac uwch.
Yn y gosodiad rhagosodedig mae cloi ffeiliau wedi ei ddiffodd yn OpenOffice.org. I'w weithredu, rhaid gosod yr amrywiolion amgylchedd addas SAL_ENABLE_FILE_LOCKING=1 ac allforio SAL_ENABLE_FILE_LOCKING. Mae'r rhain eisoes mewn ffurf wedi eu hanablu yn ffeil sgript soffice.
Rhybudd: Mae'r nodwedd cloi ffeiliau yn medru achosi anawsterau gyda Solaris 2.5.1 a 2.7 mewn cysylltiad â Linux NFS 2.0. Os yw eich system yn meddu'r paramedrau hyn, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn peidio defnyddio cloi ffeiliau. Fel arall, bydd OpenOffice.org yn atal wrth i chi geisio agor ffeil o gyfeiriadur gosodedig NFS ar gyfrifiadur Linux.
Mae OpenOffice.org yn defnyddio Info-ZIP i greu a dadbacio gosodiad OpenOffice.org, yn ogystal ag i bacio a dadbacio fformat ffeil XML OpenOffice.org. Mae (ZIP, UnZip a rhaglenni eraill) ar gael am ddim ac mae modd eu defnyddio yn y cod ffynhonnell ac fel rhaglen weithredol. Mae modd eu cael drwy safleoedd Anonymous FTP megis ftp.uu.net:/pub/archiving/zip/*.
Darnau Hawlfraint 1998, 1999 James Clark. Darnau Hawlfraint 1996, 1998 Netscape Communications Corporation.
Byddai Cymuned OpenOffice.org yn elwa'n fawr o'ch ymwneud gweithredol yn natblygiad y project cod agored pwysig hwn.
Fel defnyddiwr, rydych eisoes yn ran gwerthfawr o broses datblygu'r casgliad a byddwn yn hoffi eich hannog i gymryd rhan mwy gweithredol gyda golwg ar fod yn gyfrannwr tymor hir i'r Gymuned. Ymunwch ac ewch i dudalen y defnyddiwr yn:www.openoffice.org
Cymrwch ychydig o amser i lanw'r broses Cofrestri Cynnyrch byr wrth i chi osod y feddalwedd. Er bod cofrestri'n ddewisol, rydym yn eich annog i gofrestru gan fod y wybodaeth yn galluogi'r Gymuned i greu meddalwedd gwell ac ateb anghenion y defnyddiwr yn uniongyrchol. Drwy ein Polisi Preifatrwydd,mae Cymuned OpenOffice.org yn cymryd pob gofal i ddiogelu eich data preifat Os aethoch heibio i'r cofrestu wrth osod y feddalwedd, mae modd dychwelyd a chofrestru ar unrhyw adeg..www.openoffice.org/welcome/registration-site.html
Mae yna hefyd Arolwg Defnyddiwr ar-lein hoffwn eich hannog i'w lanw. Mae canlyniadau'r Arolwg Defnyddiwr yn cynorthwyo OpenOffice.org i symud ynghynt wrth osod safonau newydd ar gyfer creu'r cenhedlaeth nesaf o rhaglenni swyddfa. Drwy ein Polisi Preifatrwydd, mae OpenOffice.org yn cymryd pob gofal i ddiogelu eich data preifat.
Mae Safle Gwe OpenOffice.org yn cynnal IssueZilla, sef modd i gofnodi, tracio a datrys gwallau a materion o bryder. Rydym yn annog pob defnyddiwr i deimlo croeso i adrodd ar wallau all godi ym mhob platfform.Mae adrodd effeithiol ar wallau'n un o gyfraniadau pwysicaf y gall y Gymuned Defnyddwyr ei wneud i ddatblygiad a gwellhad y rhaglenni.
Dyma rhai o restrau e-bostio'r Project gallwch danysgrifio iddynt ynwww.openoffice.org/mail_list.html
Mae modd i chi wneud cyfraniad sylweddol i'r project cod agored pwysig hwn hyd yn oed os mai dim ond profiad bychan o gynllunio meddalwedd neu godio sydd gennych. Ie, chi!
Cewch ddod o hyd i brojectau yn ymestyn o Leoleiddio, Portio a Grwpwar i brojectau codio sylfaenol iawn. Os nad ydych yn ddatblygwr, ewch at y Project Dogfennaeth neu Farchnata. Mae'r Project Marchnata OpenOffice,org yn defnyddio dulliau guerilla a thechnegau marchnata traddodiadol i farchnata cynnyrch cod agored, ac rydym yn ei wneud ar draws ffiniau ieithoedd a diwylliannau, felly gallwch helpu drwy son am y gwaith a dweud wrth eich ffrindiau am y rhaglen.
Gallwch helpu drwy ymuno a'r Rhwydwaith Marchnata Cyfathrebu a Gwybodaeth yma:http://marketing.openoffice.org/contacts.html lle gallwch gynnig pwynt cyfathrebu gyda'r wasg, cyfryngau, asiantaethau'r llywodraeth, ymgynghorwyr, ysgolion, Grwpiau Defnyddwyr Linux a datblygwyr yn eich gwlad a'ch cymuned leol.
Am gymorth gyda rhaglen swyddfa OpenOffice.org 1.1, edrychwch ar yr archifau o gwestiynau sydd wedi eu hateb ar restr e-bostio: 'users@openoffice.org' www.openoffice.org/mail_list.html. Neu mae modd anfon eich cwestiynau at users@openoffice.org. Cofiwch danysgrifio i'r rhestr i gael ymateb drwy'r e-bost.
Hefyd ewch at ein adran FAQ, sydd i'w gael ar ochr chwith bar llywio safle OpenOffice.org. Mae cwestiynnau cyffredin yn cael eu gosod yma.
Y ffordd orau i gyfrannu yw drwy tanysgrifio i un neu fwy o'r rhestr e-bostio am gyfnod, ac yn raddol ddefnyddio'r archifau e-bost i ddod i adnabod yr amryw o destunau sydd wedi eu trin ers i god ffynhonnell OpenOffice.org gael ei ryddhau nôl yn Hydref 2000. Pan rydych yn barod, dim ond anfodn e-bost o gyflwyniad ac ymuno! Os ydych yn gyfarwydd â Phrojectau Cod Agored, ewch i'n rhestrau To-do a gweld os oes yna rhywbeth hoffech chi gynnig helpu gydag ef.www.openoffice.org/dev_docs/todos.html.
Gobeithio y byddwch yn mwynhau gweithio gyda'r OpenOffice 1.1 newydd ac y gwnewch ymuno ar-lein â ni.
Cymuned OpenOffice.org